- Mae gennych hawl i gael addysg sy’n eich annog i barchu eich diwylliant – a diwylliannau pobl eraill. Mae gennych hawl i ddysgu a defnyddio iaith eich teulu hefyd
- Mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol lle rydych yn byw wneud yn siŵr bod yr ysgolion ac addysg yn eich ardal yn ystyried sut y mae rhieni eisiau i’w plant gael eu haddysgu
- Yn dibynnu ble rydych yn byw yng Nghymru, mae’n bosib y cewch ddewis a ydych am ddysgu yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog
Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, yn ogystal â’r Saesneg. Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru, sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o ysgolion yng Nghymru, sicrhau bod ganddynt gynllun y Gymraeg mewn Addysg i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yng Nghymru’n gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei dysgu at safon uchel.
Mae gwahanol fathau o ysgolion yng Nghymru, yn dibynnu ar faint o’r dysgu sy’n digwydd yn Gymraeg. Yn eu plith mae ysgolion ‘cyfrwng Cymraeg’ lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd a lle mae’r rhan fwyaf o’r dysgu’n digwydd yn Gymraeg, ac ysgolion ‘cyfrwng Saesneg’ lle mae popeth yn cael ei ddysgu yn Saesneg, a’r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith. Bydd eich dewis yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.
Mae’n rhaid i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Cymraeg hyd nes eu bod yn 16. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi wneud TGAU Cymraeg, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith. Byddwch hefyd yn dysgu Saesneg a bydd yn rhaid i chi wneud TGAU Saesneg. Hyd yn oed os ydych mewn ysgol cyfrwng Saesneg, byddwch yn dysgu Cymraeg.
Os yw dros hanner y plant a’r bobl ifanc yn eich ardal yn cael eu dysgu yn Saesneg, mae’n rhaid i’ch Awdurdod Lleol ofyn i bobl yr ardal a ydynt am i’w plant gael eu dysgu yn Gymraeg. Yn dibynnu ar yr atebion a ddaw i law, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol gymryd camau i sicrhau bod mwy o addysg cyfrwng Cymraeg ar gael. Gallai hynny gynnwys newid eich ysgol yn un cyfrwng Cymraeg.
Mae pob ysgol yn gyfrifol am amlinellu beth fydd yn digwydd os nad yw’r disgyblion yn ymddwyn yn y ffordd mae’r ysgol yn ei disgwyl. Os ydych yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg, efallai y cewch eich annog i siarad Cymraeg drwy’r amser yn yr ysgol, nid dim ond yn y gwersi, neu efallai y bydd disgwyl i chi wneud hynny. Gall hynny fod yn anodd os ydych newydd ddechrau dysgu Cymraeg, neu os ydych yn cael trafferth dysgu Cymraeg, felly fe ddylech gael cymorth a chefnogaeth i ddysgu Cymraeg er mwyn i chi allu cymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Os ydych yn dewis anwybyddu safonau neu reolau’r ysgol sy’n disgwyl i chi siarad Cymraeg drwy’r amser, gallai eich ysgol gymryd camau i’ch annog i siarad Cymraeg. Gallai hynny fod yn rhywbeth mor syml â’ch atgoffa bod yr ysgol yn un cyfrwng Cymraeg ac mai Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol, yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi.
Byddai’n rhaid i unrhyw gamau gan yr ysgol fod yn rhesymol, gan barchu eich hawliau a’ch urddas, ac ystyried eich sefyllfa. Gallai hynny gynnwys ystyried ers pryd rydych yn dysgu Cymraeg ac unrhyw beth a allai ei gwneud yn anodd i chi siarad Cymraeg. Mae angen i’ch ysgol gofio hefyd fod gennych hawl i ddefnyddio iaith eich teulu.
Fe ddylai eich addysg eich annog i barchu eich diwylliant eich hun a diwylliannau eraill. Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd swyddogol Cymru ac mae dysgu a siarad Cymraeg yn yr ysgol yn gyfle gwych i gael gwybod mwy am ddiwylliant Cymru. Efallai y bydd eich ysgol yn disgwyl i chi siarad Cymraeg drwy’r amser yn yr ysgol, heblaw pan fyddwch yn dysgu Saesneg, felly os nad ydych eisiau siarad Cymraeg yn yr ysgol, efallai y bydd angen i chi drafod â’ch rhieni ai dyma’r ysgol iawn i chi.
Cofiwch fod yn rhaid i chi ddysgu Cymraeg ym mhob ysgol wladol yng Nghymru, naill ai fel iaith gyntaf neu fel ail iaith.
Os nad ydych yn siarad Cymraeg, cewch gymorth ychwanegol gan yr ysgol a’r Awdurdod Lleol i’ch helpu i ddysgu. Bydd pob Awdurdod Lleol yn cynnig opsiynau gwahanol i’ch helpu i ddysgu Cymraeg.